Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024
Amser:
09.00 -
10.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Heledd Fychan AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau, Llinos Madeley, Clerc, Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd James Attridge, Uwch-reolwr Diogelwch |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud) · Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU (60 munud) Aildrefnwyd · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) (15 munud) Aildrefnwyd
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol: |
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
Gohiriwyd tan 12
Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm
Dydd Mercher
Cafodd y Pwyllgor Busnes wybodaeth friffio ar drefniadau diogelwch yn ymwneud â'r brotest a ddisgwylir ddydd Mercher a'r amharu posibl, gan gynnwys teithio. Cofrestrodd y Trefnydd a Jane Dodds eu pryder bod busnes a digwyddiadau'r Senedd yn parhau wyneb yn wyneb o ystyried maint y brotest a ddisgwylir a chodwyd y posibilrwydd o gadw presenoldeb ar Ystad y Senedd ar ei isafswm, a thrafodion yn cael eu cynnal ar-lein pe bai angen.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
· Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)
· Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (5 munud)
· Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru) (5 munud)
·
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24
(30 munud) gohiriwyd
tan 13 Mawrth
Dydd Mercher 13 Mawrth 2024
·
Cwestiynau i’r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
gohiriwyd tan 20 Mawrth
2024
· Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) - wedi dwyn ymlaen o 20 Mawrth 2024
· Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 (30 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 20 Mawrth i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg i 13 Mawrth.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –
·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan
Aelod (30 munud) Symudwyd i 12 Mawrth
Dydd Mercher 20 Mawrth 2024 –
Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Bil a gynigiwyd gan y Llywodraeth a chytunodd:
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar amserlenni cyflym ar gyfer Biliau'r Senedd. Nododd y Pwyllgor brofiad y ddau Fil a amlinellwyd yn y papur a gofynnodd i swyddogion ddrafftio offeryn gwneud penderfyniadau y gellid ei ddefnyddio i'w gynorthwyo i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar amserlenni Biliau pan fydd amserlen gyflym wedi’i chynnig.
Gofynnodd Darren Millar i ystyried faint o amser sydd ar gael i'r Aelodau i baratoi ar gyfer trafodion Cyfnod 2 a Chyfnod 3 ar Filiau yn dilyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion ddarparu nodyn am y materion hyn, i gynnwys profiad diweddar yn ymwneud â’r Bil Seilwaith (Cymru).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i ddiwygio'r terfyn amser i bwyllgorau adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) i 26 Ebrill 2024.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 14 Mawrth 2024.
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried a ddylai fwrw ymlaen â thrafod Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor cyn toriad y Pasg, a swyddi gwag posibl cadeiryddion pwyllgorau a allai godi yn sgil y Prif Weinidog newydd yn penodi ei lywodraeth. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes bod angen cyfnod hwy o amser i roi ystyriaeth lawn i'r materion perthnasol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'r drafodaeth fanwl honno dros y misoedd nesaf, gan gydnabod na fyddai unrhyw newidiadau ar waith erbyn i unrhyw swydd wag godi yn dilyn toriad y Pasg.